Desg y Wasg |
||||
|
CADEIRYDD NEWYDD I’R BWRDD LLYWIO YN NHŶ’R CWMNIAU Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi penodi Andrew Summers i safle allweddol fel Cadeirydd ei Fwrdd Llywio. Gan groesawu penodiad Andrew, dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwraig Tŷ’r Cwmnïau: “Mae gan Andrew brofiad helaeth mewn cynghori adrannau’r llywodraeth ac mewn rhedeg cwmnïau yn y sector preifat. Bydd yn hynod o werthfawr i Dŷ’r Cwmnïau oherwydd ei fod yn deall yr amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo fel rhan o’r llywodraeth ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o’r effaith sydd gan y ffordd yr ydym yn gweithio ar gwsmeriaid sydd yn rhedeg cwmnïau. Mae gan Dŷ’r Cwmnïau enw da eisoes fel asiantaeth sydd yn arwain y llywodraeth mewn cyflwyno gwasanaethau i gwsmeriaid ond bydd profiad Andrew yn ein helpu i godi ein perfformiad wrth fynd ymhellach eto i gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid. Edrychaf ymlaen at y sialensiau a ddaw yn ei sgil.” Gan siarad ag uwch reolwyr yn Nhŷ’r Cwmnïau cydnabu Andrew gryfderau perfformiad yr asiantaeth a’i hymrwymiad i gwsmeriaid. Talodd deyrnged i Dŷ’r Cwmnïau ar ei gyflawniadau tra’n cydnabod: “Mae disgwyliadau cwsmeriaid yn codi’n barhaus ac felly mae’n amlwg bod rhaid i ni barhau i wella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ac yn cyflwyno ein gwasanaethau, yn ogystal â bod ar y blaen mewn llywodraeth drawsnewidiol. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chi i wneud Tŷ’r Cwmnïau yn ddarparydd gwybodaeth o’r radd flaenaf sydd yn creu manteision i bob cwmni ac i economi’r DU.” |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|