Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

Llwyddiant i Dŷ’r Cwmnïau sydd wedi Ennill Gwobr!

Mae Tŷ’r Cwmnïau sydd yn asiantaeth o’r Adran Masnach a Diwydiant wedi cyflawni llwyddiant hollol newydd ar ddiwedd blwyddyn heriol. Neithiwr enillodd Tŷ’r Cwmnïau wobr y rhuban glas gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain: Prif Wobr am y prosiect rheolaeth gwybodaeth gorau yn gyffredinol. Yn ogystal â’r deyrnged diwedd blwyddyn wych hon, enillodd y corff wobrau a chafodd ei rhoi ar y rhestr fer mewn sawl cystadleuaeth bwysig yn 2006, yn cynnwys

-Sefydliad Ymchwil Corfforaethol: Prif Gyflogwyr TG 2006/07.

-Enillydd Gwobr Accountancy Age: am ein defnydd o’r rhyngrwyd yn y categori gwasanaeth cyhoeddus.

-Ail yn Whitehall & Westminster World am gyflwyniad gweithrediadol.

-Trydydd mewn gwobr ar gyfer cyfrifoldeb amgylcheddol gyda Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaeth Adeiladu

Gan siarad am y llwyddiant hwn, dywedodd Prif Weithredwraig Tŷ’r Cwmnïau, Claire Clancy ‘Rydym yn gweithio’n galed tuag at ein nod o fod yn ddarparydd gwybodaeth o’r radd flaenaf. Ar adeg o newidiadau mawr rydym eisiau i’n staff, y Gwasanaeth Sifil a’r cyhoedd yn gyffredinol deimlo’n galonogol ynglŷn â’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni. Mae’n ffordd ardderchog o orffen y flwyddyn’. Ynghyd â hyn bu cyflawniadau hollol newydd yn effeithlonrwydd prosesu a rheolaeth y Gofrestr Gwmnïau a rhai o’r canlyniadau arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid uchaf erioed.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn rheoli’r bas data ar gyfer yr holl 2.5 miliwn o gwmnïau sydd wedi’u cofrestru ym Mhrydain gan sicrhau bod ein busnesau a’n heconomi yn elwa o’r gwasanaethau gorau a mwyaf effeithiol posibl. Mae’r llwyddiannau hyn yn batrwm mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn deyrnged i staff yr Adran Masnach a Diwydiant a Thŷ’r Cwmnïau.

Mynediad i’r Cyhoedd: Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal mynediad cyhoeddus i’w wasanaethau trwy ei Wefan www.companieshouse.gov.uk ac anogwn ddefnyddwyr busnes a’r cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Ffeilio Electronig Diogel i Gwmnïau: Mae nifer cynyddol o gwmnïau hefyd yn defnyddio ein gwasanaethau electronig diogel hawdd i’w defnyddio i gofrestru eu dogfennaeth fel dewis arall i gyflwyniadau papur ac anogwn gwsmeriaid newydd a chyfredol i ddefnyddio’r cyfleuster ardderchog ac effeithlon hwn (gwybodaeth ar ein Gwefan).

Nodiadau i Olygyddion: Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth Weithredol o’r Adran Masnach a Diwydiant gyda chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig, am gofrestru gwybodaeth a gyflenwir ganddynt i’r Cofrestrydd Cwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth berthynol ac am wneud yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

Neil White:

Cyfathrebiadau Mewnol a’r Wasg

029 20380161


mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies