Ffeilio gwybodaeth gyda ni |
||||
WebFiling
Mae’n gwasanaeth WebFiling yn system ddiogel sy’n gadael ichi gyflwyno gwybodaeth am gwmni ar-lein. Ar hyn o bryd, gallwn dderbyn data ar gyfer ffurflenni 363a (Ffurflen Flynyddol), 287, 288a, 288b, 288c, 353, 353a, 190, 190a, 88(2) a 123. I ddefnyddio’n gwasanaeth WebFiling, mae’n rhaid ichi gofrestru ar-lein yn gyntaf. Byddwn wedyn yn anfon cod diogelwch i’ch cyfeiriad e-bost, a chod dilysu pellach drwy’r post i swyddfa gofrestredig eich cwmni. Mae’r cod dilysu yn unigryw i gwmni arbennig ac fe’i defnyddir yn lle llofnod. Mae’r gwasanaeth WebFiling ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7am hyd 12 canol nos. |
||||
Software FilingO dan ein gwasanaeth Software Filing, gall dogfennau statudol gael eu cyflwyno’n electronig i Dŷ’r Cwmnïau drwy e-bost. Cadarnheir yn awtomatig fod dogfennau’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cwmnïau cyn rhoi hysbysiad derbyn neu wrthod. Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb sy’n cyflwyno dogfennau, ond bydd yn fwyaf llesol i rai sy’n ffeilio dogfennau’n feunyddiol neu’n wythnosol. Po fwyaf o ddogfennau y byddwch yn eu ffeilio gyda Thŷr Cwmnïau, mwyaf priodol y bydd y drefn Software Filing i chi, a mwyaf oll o fudd a ddeillir o’r gwasanaeth, o bosibl, lle mae effeithiolrwydd yn y cwestiwn. I ddefnyddwyr anaml, hwyrach y bydd ein gwasanaeth WebFiling yn fwy addas. Os hoffech chi gofrestru am y gwasanaeth Software Filing, byddwch cystal â llenwi’r Cais am Gyfrif Credyd ar gyfer Gwasanaethau Ffeilio Ar-lein. Wrth dderbyn hwnnw gennych, byddwn yn creu cyfrif, yn neilltuo terfyn credyd ac yn anfon pecyn cychwyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fydd eisiau arnoch i fynd ati i ffeilio. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth Software Filing ac i gyrchu Manyleb Rhyngwyneb Technegol y Drefn Electronig. |
||||
Gwefan Tŷ'r CwmnïauMae ein gwefan yn cynnig detholiad ar-lein ardderchog o ganllawiau a gwybodaeth amhrisiadwy am gwmnïau, gan gynnwys cyfleustra cyrchu a dadlwytho ffurflenni. Mae mwyafrif ein ffurflenni ar gael ar Ddiwyg Dogfen Drosglwyddadwy (PDF). Mae hyn yn gadael ichi lenwi’r ffurflen ar-lein, yn barod i’w hargraffu, ei llofnodi a’i phostio’n ôl atom. I ddefnyddio’r ffurflenni hyn, bydd angen ichi ddadlwytho meddalwedd “Adobe Acrobat” yn rhad ac am ddim. Cliciwch yma i gyrchu rhestr o'r ffurflenni Cymraeg sydd ar gael ar ddiwyg PDF Cliciwch yma i gyrchu'r rhestr lawn o ffurflenni sydd ar gael ar ddiwyg PDF Cliciwch yma i ddadlwytho meddalwedd 'Adobe Acrobat Reader' Cliciwch yma i archebu Ffurflenni Statudol sydd ar gael yn Gymraeg Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r Ffurflenni Statudol sydd ar gael ar gyfer Cymru/Lloegr |
||||
Dogfennau wedi eu Cyflwyno drwy’r Post Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy drefn Britdoc (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch. Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau |
||||
Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r CwmnïauCynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau. |
||||
Canolfan Cysylltu Tŷ'r CwmnïauGall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thŷr Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud. Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu fel e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif. |
||||
|
|
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|