Dod o hyd i wybodaeth am gwmni |
||||
| Pa wasanaeth bynnag y penderfynwch ei ddefnyddio i brynu gwybodaeth
am gwmnïau, cofiwch fod modd bob amser gyrchu’n mynegai o enwau a chyfeiriadau cwmnïau yn rhad ac am ddim drwy glicio’r cyswllt yma |
||||
WebCHeckMae gwasanaeth WebCHeck yn cynnig Mynegai Chwiliadwy o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau yn rhad ac am ddim sy’n ei gwneud yn bosib ichi chwilio am wybodaeth ynghylch mwy na 2 miliwn o gwmnïau. Gellir chwilio’r cwmni drwy ddefnyddio naill ai ei enw neu ei rif cofrestru unigryw. Yn ychwanegol at fanylion di-dâl y cwmni, gallwch hefyd ddefnyddio WebCHeck i brynu ei gyfrifon a’i ffurflenni blynyddol diweddaraf yn ogystal â detholiad o adroddiadau cwmni, i gyd ar-lein. Fe delir drwy gerdyn credyd a chaiff pob cynnyrch ei drosglwyddo’n electronig i fan dadlwytho unigryw, diogel. |
||||
|
||||
MonitorGallwch gadw llygad ar eich cystadleuwyr neu hyd yn oed eich cwmni eich hun a ‘monitro’ pa ddogfennau a gafodd eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Monitor o fewn Companies House Direct. Ni raid ond cofrestru’ch cyfeiriad e-bost, a manylion y cwmnïau a’r dogfennau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Cyn gynted ag y caiff y dogfennau eu cofrestru a’u sganio, bydd y system yn cydnabod eich diddordeb ac yn anfon hysbysiad drwy e-bost atoch. Wedyn, gallwch benderfynu a ydych am archebu delwedd y ddogfen. Chi biau’r dewis. Am wybodaeth bellach ynghylch Monitor, ymwelwch â thudalen gwe Companies House Direct neu ffonio’r Ddesg Gymorth ar 08457 573991 |
||||
Cynhyrchir cyfarwyddiadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth yr Adran Gofal am Gwsmeriaid ar 02920 380820 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ. Sylwch nad yw’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfarwyddiadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,200. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000. |
||||
Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD-ROM Mae’r Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD ROM yn darparu gwybodaeth sylfaenol am gwmnïau sydd wedi cael eu diddymu neu wedi newid enw yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd ac adnabod cwmnïau yn ôl y meini prawf canlynol: enw’r cwmni, rhif y cwmni, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig (os nad yw wedi’i ddiddymu), côd post (os nad yw wedi’i ddiddymu), dyddiad diddymu (neu amrediad o ddyddiadau), math o gwmni, statws y cwmni a newid enw. Cynhyrchir y Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD-ROM bob blwyddyn a’i gost yw £30. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth yr Adran Gofal am Gwsmeriaid ar 02920 380820 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ. Sylwch Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir ar y ‘Mynegai Newid Enw a Chwmnïau wedi eu Diddymu ar DVD ROM’, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r Mynegai gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,200. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000. |
||||
Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r CwmnïauCynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau. |
||||
Canolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thy’r Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud. Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu fe l e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif. |
||||
|
|
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|